Dramodydd Americanaidd o dras Cymreig oedd Thomas Lanier Williams (26 Mawrth 1911 – 25 Chwefror 1983) a enillodd lawer iawn o wobrau uchaf am ei ddramâu. Newidiodd ei enw i "Tennessee", sef talaith enedigol ei dad yn 1939. Enillodd Wobr Pulitzer am A Streetcar Named Desire yn 1948 ac am ei ddrama Cat on a Hot Tin Roof yn 1955. Enillodd The Glass Menagerie (1945) a The Night of the Iguana (1961) Wobr "New York Drama Critics' Circle]". Enillodd ei drama The Rose Tattoo Wobr Tony (Tony Award) am y ddrama gorau, yn 1952.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search